Mae pobol sydd gydag anableddau dysgu yn marw 15 i 20 mlynedd yn gynt na’r boblogaeth gyffredinol, yn ôl adroddiad newydd.

Golygai fod 1,200 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn.

Mae’n “syfrdanol” nad yw anableddau dysgu yn cael eu hadnabod ymhlith dau ym mhob pump o bobol, sef 40%, pan maen nhw’n blant, meddai’r Sefydliad Cydraddoldeb Iechyd (IHE) ym Mhrifysgol Coleg Llundain (UCL).

Mae risg ychwanegol y gallai plant ag anableddau dysgu fod yn dioddef problemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, meddai’r adroddiad, gyda hanner y risg cynyddol yn deillio o dlodi, tai gwael, gwahaniaethu a bwlio.

Y Llywodraeth wedi methu

 Dywedodd awduron yr adroddiad bod pwyslais y Llywodraeth ar “degwch” a mynd i’r afael a “chymdeithas ranedig” wedi methu miloedd o blant gydag anableddau.

Maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i ganolbwyntio ar faterion fel gwella tlodi, tai gwael, gwahaniaethu a bwlio yn benodol.

Ochr yn ochr â hyn, maen nhw eisiau gwella profiadau bywyd cynnar, a rhoi rhagor o gefnogaeth i rieni er mwyn lleihau heriau ymddygiadol.

“Canlyniad uniongyrchol o ddewis Gwleidyddol”

 “Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol o ddewis gwleidyddol sy’n golygu bod y grŵp bregus hwn yn profi’r gwaethaf mewn cymdeithas,” meddai cyfarwyddwr y Sefydliad Cydraddoldeb Iechyd, Syr Michael Marmot.

Mae’n cyfeirio at “incwm isel, dim gwaith, tai gwael, unigedd cymdeithasol ac unigrwydd, bwlio a cham drin” fel y prif resymau.