Mae llawfeddygon plastig yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno rhybuddion clir ar becynnau tân gwyllt.
Daw’r galwadau wrth i nifer y bobol sy’n gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys gydag anafiadau o ganlyniad i dân gwyllt, fwy na dyblu dros y blynyddoedd diwethaf.
Er gwaetha ymgyrchoedd diogelwch a rhybuddion bob blwyddyn, mae nifer o anafiadau sy’n gallu cael effeithiau hirdymor yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig bob gaeaf, yn enwedig ymhlith y rheiny sydd ddim yn mynd i ddigwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu.
Mae Sefydliad Prydeinig y Llawfeddygon Plastig (BAPRAS) yn dweud bod newidiadau positif wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth farchnata cynnyrch sy’n gallu effeithio iechyd pobol fel alcohol, sigaréts, bwyd sothach a gamblo.
Ond mae’n nhw’n dweud nad yw hynny wedi digwydd gyda phecynnau tân gwyllt, gyda’r rhybuddion yn cael eu cyfyngu i focs bach ar gefn y pecyn.
Mae’r sefydliad yn dweud bod angen trawsnewid y rhybuddion ar becynnau tân gwyllt er mwyn osgoi rhagor o anafiadau difrifol.
Mae hanner y rheiny gafodd eu cludo i’r ysbyty oherwydd anafiadau o ganlyniad i dân gwyllt yn 18 oed neu’n iau ac 80% yn wrywaidd.
“Effaith sylweddol”
Dywedodd Dylan, 25, sy’n byw yng Nghymru bod yr anafiadau a gafodd oherwydd tân gwyllt wedi cael “effaith sylweddol” ar ei fywyd.
“Mae pobol yn meddwl bod tân gwyllt yn ychydig o hwyl ond, i fi, maen nhw wedi cael canlyniadau enfawr.
“Roedd fy ffrind wedi taflu tân gwyllt oedd wedi glanio wrth fy nhraed. Pan wnes i ei godi i’w symud allan o’r ffordd, fe ffrwydrodd yn fy llaw gan fy ngadael gydag anafiadau difrifol.
“Rydw i wedi cael pum llawdriniaeth, gyda llawfeddygon plastig yn ceisio adfer rhannau o fy mysedd a misoedd yn ddiweddarach fe alla’i wynebu tair llawdriniaeth arall.
“Mae’r ddamwain wedi cael effaith sylweddol ar fy mywyd – dw i ddim yn gallu bwydo fy hun na chwarae gyda fy mabi newydd fel yr hoffwn i, a hynny i gyd oherwydd chwarae o gwmpas efo tân gwyllt.
“Dw i’n credu bod yr ymgyrch yma i gynnwys rhybuddion ar becynnau tân gwyllt yn syniad gwych. Fe allai rhybuddion mwy clir fod wedi gwneud i fi a fy ffrindiau i feddwl ddwywaith am y peryglon posib.”