Mae canghellor yr wrthblaid, John McDonnell wedi croesawu addewid Llafur yr Alban i amrywio trothwyon trethi fel eu bod yn wahanol i weddill gwledydd Prydain.

Mae Richard Leonard, arweinydd y blaid yn yr Alban, yn “iawn” i wneud hynny, meddai.

Yn ôl Cyllideb y Canghellor Philip Hammond, mae’n bwriadu codi’r trothwy o 40 ceiniog ar yr enillwyr mwyaf i £50,000.

Yn yr Alban, mae trethdalwyr yn cael eu trethu 41% ar enillion dros £43,430 ac mae Richard Leonard yn dweud na fyddai ei blaid yn fodlon codi’n uwch na hynny.

“Y sail deallusol yw hyn – rydym oll yn cytuno ar egwyddorion cyffredin system drethu deg,” meddai John McDonnell wrth raglen Sunday Politics Scotland y BBC.

“Mae Richard Leonard, yn gwbl gywir am fod trethu wedi’i ddatganoli, wedi cyflwyno cynigion Llafur yr Alban.

“Mae’n rhaid i hynny adlewyrchu’r demograffeg rydym yn ei gynrychioli, ac mae’n rhaid hefyd iddo adlewyrchu natur ddatganoledig ein proses o wneud penderfyniadau yn ein gwlad ar hyn o bryd.”

Ychwanega fod y cynigion yn seiliedig ar “degwch ac ar godi arian ychwanegol a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus”.

Refferendwm annibyniaeth?

Mae John McDonnell hefyd yn gwrthod gwneud sylw am gynlluniau posib i gynnwys gwaharddiad ym maniffesto nesa’r blaid ar gynnal refferedwm annibyniaeth o’r newydd.

Mae Richard Leonard eisoes wedi dweud y bydd gwaharddiad yn rhan o faniffesto nesa’r blaid.

Yn ôl John McDonnell, mae trafod refferendwm arall yn tynnu sylw oddi ar faterion pwysicach, fel llymder.