Mae dyn 45 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o geisio dwyn copi gwreiddiol Eglwys Gadeiriol Salisbury o’r Magna Carta.

Digwyddodd y drosedd honedig ddydd Iau pan dorrodd dyn focs gwydr sy’n amgylchynu’r ddogfen hynafol.

Mae Eglwys Gadeiriol Salisbury yn gartref i un o bedwar copi.

Mae Heddlu Wiltshire wedi apelio am wybodaeth.