Rhaid i gyflogwyr wneud rhagor i ddiogelu gweithwyr – gan gynnwys gyrwyr bysys a pheirianyddion – rhag allyriadau disel, yn ôl undeb llafur.

Mae’r TUC (Cyngres yr Undebau Llafur) yn rhybuddio bod yr allyriadau yn medru achosi canser, ac maen nhw’n pryderu bod dros 100,000 o weithwyr yn wynebu’r risg.

Hefyd, mae’r undeb yn dweud bod yr allyriadau yn medru achosi problemau iechyd tymor byr gan gynnwys cur pen a phroblemau anadlu.

Dylai cyflogwyr ddefnyddio cerbydau sydd ddim yn rhedeg ar ddisel, a sicrhau bod gweithleoedd â ffenestri agored, yn ôl y TUC.

“Angheuol”

“Gan eithrio asbestos, does dim byd yn lladd mwy o weithwyr nag allyriadau disel,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O’Grady.

“Mae’n peri risg angheuol i ddegau o filoedd o weithwyr ledled y Deyrnas Unedig. Rhaid i gyflogwyr weithredu er mwyn diogelu eu staff, a gwaredu allyriadau disel o’r gweithle.”