Fe dderbyniodd y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr bron £70m o incwm y llynedd drwy godi tâl ar aelodau o’i staff am barcio.

Mae ffioedd parcio mewn ysbytai bellach wedi’u diddymu yng Nghymru, ond mae ffigyrau ar gyfer Lloegr yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd yno wedi codi cyfanswm o £69.5m yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r ffigyrau, a gafodd eu cyhoeddi gan NHS Digital, hefyd yn dangos bod £157m wedi cael ei godi trwy godi tâl ar gleifion ac ymwelwyr.

Dyw’r ffigyrau ddim yn dangos y gost o gynnal a chadw’r meysydd parcio, dim ond y cyfanswm y mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi’i dderbyn trwy’r ffioedd.

Mae’r undeb, Unite, sy’n cynrychioli tua 100,000 o weithwyr iechyd yn Lloegr, yn galw’r ffigyrau yn “sgandal”, tra bo cadeirydd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn dweud ei fod yn “annerbyniol”.

Ond mae Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, Rachel Power, yn bod y ffioedd parcio yn gyfle i’r gwasanaeth wneud arian mewn cyfnod pan mae o dan bwysau “aruthrol”.