Fe allai barnwyr gael codiad cyflog blynyddol o bron i £60,000, yn ôl adroddiadau – penderfyniad sy’n debygol o gorddi’r dyfroedd ymhlith gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

Mae adroddiad sydd wedi’i gomisiynu gan y Llywodraeth wedi argymell y dylai barnwyr yr Uchel Lys gael codiad cyflog o 32%, yn ôl papur y Daily Mail.

Dywedodd y papur y byddai’r cynnydd yn golygu bod cyflogau’n codi o £181,500 y flwyddyn i £240,000.

Mae’n debyg bod y codiad cyflog yn cael ei argymell oherwydd moral isel ymhlith barnwyr yn sgil oriau hir, pwysau gwaith, a newidiadau treth i gynlluniau pensiwn.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod Theresay May a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke wedi derbyn yr adroddiad ond nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud hyd yn hyn a fydd yr argymhellion yn cael eu derbyn.