Fe gostiodd ymweliad Donald Trump â’r Deyrnas Unedig bron i £18m i’r heddlu.

Cafodd bron i 10,000 o swyddogion eu rhoi ar waith dros y tridiau y bu arlywydd yr Unol Daleithiau ar ymweliad ym mis Gorffennaf. Dyma’r nifer mwyaf o swyddogion sydd wedi cael eu defnyddio ers 2011.

Yn ystod ei ymweliad cyntaf i Brydain fel arlywydd, cynhaliodd Trump drafodaethau gyda’r Prif Weinidog Theresa May a’r Frenhines yng Nghastell Windsor, cyn teithio i’r Alban lle chwaraeodd golff yn Turnberry Hall.

Effaith ar blismona lleol

Roedd h’n “weithrediad sylweddol” meddai Sara Thornton, cadeirydd Cyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu, gyda’r holl brotestiadau yn erbyn Donald Trump yn cyd-daro â’i ymweliad.

“Fe gafodd y digwyddiad effaith ar blismona lleol ar draws y wlad, gydag ardaloedd yr ymweliad yn cael eu heffeithio fwyaf.

“Mae’r gost lawn eto i gael ei chyfrifo, ond mae amcangyfrif yn dangos ei fod wedi costio bron i £18m.”