Mae chwech o bobol wedi’u cyhuddo ar ôl i ffrwydron gael eu rhoi o dan gar yn Warrington yn Swydd Caer.

Fe gafodd nifer o gyrchoedd eu cynnal gan yr heddlu ddoe (dydd Mawrth, Hydref 9).

Mae Robert Musson (33), William Jones (28), Kyle Stewart (31) a Wesley Williamson (31) wedi’u cyhuddo o gynllwyn i fod â ffrwydron yn eu meddiant, ac mae Robert Musson a Wesley Williamson hefyd wedi’u cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên, ynghyd ag Utku Tig (31) a Paul Jones (38).

Bydd y chwech yn ymddangos gerbron ynadon Gorllewin Swydd Caer heddiw.

Mae dyn 28 oed wedi’i ryddhau dan ymchwiliad am y tro.