Efallai bod y Llywodraeth “ymhellach nag y mae’n fodlon ei gredu” i ffwrdd o gyflawni ei nod o gael mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol i boobl ifanc, mae adroddiad wedi honni.

Dywed y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, os y bydd cynlluniau yn cael eu cyflwyno yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi’u bwriadu, y bydd “angen sylweddol” am ofal iechyd ddim yn cael ei fodloni.

Mae’n awgrymu bod angwn £1.4bn ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc rhwng 2016/17 a 2020/21.

Mae’r rhaglen gyfredol yn nodi “cam cyntaf pwysig, ond cymedrol,” tuag at fynd i’r afael â’r mater hwn, meddai’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ond mae “gwendidau ac ansicrwydd” yn golygu nad yw eto’n glir os yw’r Llywodraeth yn darparu gwerth am arian.

“Mae cydraddoldeb parch rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol i blant a phobol ifanc yn nod canmoladwy,” meddai wedyn.

“Fodd bynnag, er mwyn sicrhau newid ystyrlon, rhaid i’r cynllunio, yr adnoddau a’r cydlynu angenrheidiol fod yn cydweddu â hyn.

“Er gwaethaf dechrau da, mae’r nod hwn yn parhau i fod yn bell. Mae targedau cyfredol i wella gofal yn gymedrol a, hyd yn oed os cânt eu bodloni, mae’n golygu mai dim ond dwy ran o dair o’r rheiny sydd angen help fydd yn cael y cymorth.”