Fe fydd swyddogion carchardai yn cael caniatad i gario chwistrell bupur synthetig, mewn ymgais i fynd i’r afael â yn thrais, yn ôl Gweinidog Carchardai llywodraeth San Steffan, Rory Stewart.

Mae’r chwistrell PAVA wedi cael ei dreialu mewn pedwar carchar, a bydd nawr yn cael ei gyflwyno ym mhob carchar sy’n cadw dynion dan glo.

Daw’r newyddion cyn araith gan Andrea Albutt, Llywydd Cymdeithas Llywodraethwyr y Carchardai (PGA), lle disgwylir iddi gyhuddo’r llywodraeth o fethu ag ymateb yn ddigon cyflym i argyfwng diogelwch mewn carchardai.

Dywed Rory Stewart fod treialon chwistrelliad PAVA eisoes wedi gweithio, heb fod yn rhaid i swyddogion ei defnyddio.

“Mae’r ffaith bod swyddogion yn cario’r canister ar eu gwregys yn rhwystr ynddo’i hun ac yn gallu atal digwyddiad,” meddai.

Ychwanegodd fod y penderfyniad i arfogi swyddogion carchar gyda’r chwistrell yn galyniad “dwys ystyried”, ond bod carchardai mwy diogel “yn hanfodol i bawb ohonon ni”.

“Mae ein swyddogion carchar yn gwneud un o’r swyddi pwysicaf ac arwrol yn ein cymdeithas. Rhaid i ni roi modd iddyn nhw wneud eu gwaith,” meddai wedyn.