Rhaid cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban pe bai’r wlad yn cael ei llusgo allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ei hewyllys yn y pen draw, yn ôl yr SNP.

Dywed arweinydd y blaid yn San Steffan, Ian Blackford na ddylid gorfodi’r wlad i adael yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o bobol pe bai ail refferendwm Brexit yn cael ei gynnal.

Roedd 52% o boblogaeth gwledydd Prydain o blaid gadael yn 2016, ond pleidleisiodd pob ardal yn yr Alban o blaid aros.

Pleidlais y Bobol

Wrth siarad ar raglen Ridge on Sunday ar Sky, dywedodd Ian Blackford, “Os oes yna Bleidlais y Bobol, mae angen i ni sicrhau bod ein safbwynt yn cael ei warchod.

“Rhaid i ni gael yr hawl – os ydyn ni am gael ein llusgo allan o Ewrop, os ydyn ni am gael ein llusgo allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau – fod gennym y gallu i benderfynu ein dyfodol ein hunain.”

Daw’r sylwadau drannoeth rali fawr yng Nghaeredin, lle’r oedd 100,000 a mwy o bobol wedi ymgynnull o blaid annibyniaeth i’r Alban. Ond yn ôl ffigurau swyddogol, dim ond 20,000 oedd yn bresennol.

Ac mae polau piniwn yn awgrymu y byddai’r mwyafrif o blaid annibyniaeth pe bai ‘Brexit caled’ yn mynd rhagddo.

Ychwanegodd Ian Blackford, “Mae’n amlwg iawn fod amgylchiadau’n newid yn fan hyn. Dw i’n credu bod pobol yn mynegi barn amlwg iawn eu bod nhw am gael gwarchod eu hawliau fel dinasyddion Ewrop.”

Ac mae’n dadlau bod achos yr Alban wedi’i gryfhau gan y ddarpariaeth arbennig ar gyfer ffiniau Iwerddon fel rhan o drafodaethau Brexit.