Mae dedfryd newyddiadurwr am lofruddio’i wraig wedi cael ei hymestyn o ddeng mlynedd i bymtheg gan lys yn Dubai.
Cafwyd Francis Matthew, cyn-olygydd y Gulf News, yn euog ym mis Mawrth o ladd ei wraig Jane yn eu cartref gan ddefnyddio morthwyl, a’i ddedfrydu i ddeng mlynedd dan glo.
Ond yn dilyn apêl gan y ddwy ochr, daeth cadarnhad y byddai’n rhaid iddo dreulio pum mlynedd ychwanegol yn y carchar.
Fe allai fod wedi wynebu’r gosb eithaf.
Roedden nhw wedi bod yn briod am fwy na 30 o flynyddoedd.
Mae brawd Jane Matthew, Peter Manning wedi croesawu’r ddedfryd estynedig.