Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn afon.

Fe ddaeth Heddlu Suffolk o hyd i gorff Joe Pooley, 22 o Ipswich, yn afon Gipping ar Awst 13.

Fe ddaeth prawf post mortem i’r casgliad iddo foddi.

Roedd y farwolaeth yn cael ei hystyried ar y dechrau fel un heb eglurhad, ond mae ymholiadau pellach wedi arwain at arestio dyn a dynes 28 oed.

Mae’r ddau wedi’u dyn i’r ddalfa yn Martlesham ar gyfer eu holi.