Mae neges wedi ymddangos ar dudalen Twitter swyddogol Heddlu’r Alban sy’n wfftio ail refferendwm annibyniaeth.

Cafodd y neges ei phostio ar gam i’r dudalen swyddogol.

Mae’n dweud eu bod “wedi syrffedu” o glywed yr SNP yn “mynd ymlaen” am gynnal refferendwm o’r newydd.

Cafodd llun proffil yr heddlu ei newid fel ei fod yn dangos rhywun yn dylyfu gên – ymgyrch y rheiny sydd o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Gall negeseuon o’r fath gael eu gosod ar gyfrifon Twitter drwy ddilyn cyfres fer o gamau.

Dywed yr heddlu mai “camgymeriad dynol” oedd yn gyfrifol am y neges, sydd bellach wedi cael ei dileu, ac y byddai’r holl blismyn yn cael eu “hatgoffa o’r angen i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn modd cyfrifol”.