Mae trydydd unigolion wedi’i drin am symptomau brech y mwncïod (monkeypox) yng ngogledd Lloegr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cadarnhau fod gweithiwr iechyd wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Fictoria, Blackpool yn ystod mis Medi, cyn i’r haint gael ei adnabod.

Mae’r corff yn dweud nad ydi hi’n “hollol annisgwyl” i weld achosion o’r haint yn cyrraedd gwledydd Prydain.

Er bod lluniau o ddioddefwyr yn Asia ac Affrica yn dangos pobol â phlorod ar eu cyrff, mae’r symptomau cyntaf yn cynnwys gwres uchel, cur pen, nodau lymff wedi chwyddo, a blinder.