Mae ail fachgen yn ei arddegau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn achos o drywanu yn Nottingham.

Mae’r bachgen 16 oed yn cael ei holi ar hyn o bryd, wedi i’r heddlu gael eu galw i ardal Hyson Green.

Fe gafodd y dioddefwr ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yn ddiweddarach.

Fe gafodd bachgen 14 oed ei arestio ddydd Mawrth yr wythnos hon ar amheuaeth o lofrudddiaeth, ac mae yntau’n dal i fod yn y ddalfa.