Fe allai cwsmeriaid arbed tua £75 y flwyddyn wrth i’r corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am y diwydiant ynni gyflwyno uchafswm ar brisiau nwy a thrydan.

O dan gynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi gan Ofgem, fe fydd 11 miliwn o gartrefi yn y Deyrnas Unedig yn arbed £1bn y flwyddyn wrth i uchafswm o £1,136 gael ei gyflwyno.

Mae’r corff, sydd wedi derbyn pwerau cyfreithiol gan Lywodraeth Prydain ym mis Gorffennaf i gyflwyno’r uchafswm, yn gobeithio cyflwyno’r mesurau erbyn diwedd y flwyddyn yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad.

“Amddiffyn”

“Unwaith y mae’r uchafswm pris mewn lle, bydd cartrefi yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hamddiffyn rhag gorfod talu gormod am eu hynni,” meddai Prif Weithredwr Ofgem, Dermot Nolan.

“Mae modd i gwsmeriaid gael yr hyder y bydd costau ynni yn cael eu trosglwyddo iddyn nhw, ac os bydd y gost yn lleihau, bydd Ofgem yn sicrhau bod unrhyw gynnydd o ganlyniad i godiad mewn prisiau ynni yn hytrach na’r cyflenwr yn ceisio gwneud elw.”