Mae ymgyrchwyr dros refferendwm ar Brexit yn ceisio sicrhau cynnig ar y mater yng nghynhadledd y Blaid Lafur.

Mae’r mudiad trawsbleidiol Pleidlais y Bobl yn galw ar aelodau Llafur i gyflwyno cynnig o’r fath er mwyn cynyddu’r pwysau ar y Llywodraeth.

Mae’n ymddangos y byddai cefnogaeth gref i bleidlais ar gytundeb terfynol ar Brexit ymysg aelodau Llafur, yn wahanol i farn yr arweinydd Jeremy Corbyn.

Er hyn, mae Pleidlais y Bobl yn pwysleisio nad tanseilio arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yw eu nod, ac maen nhw’n rhybuddio eu cefnogwyr i beidio ag ymosod arno’n bersonol.