Mae’r Llywodraeth yn ymchwilio i adroddiadau bod pobol wedi bod yn dwyn metel o longau a suddodd yn Asia yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson ei fod yn “bryderus iawn” o glywed honiadau bod eitemau fel metel wedi cael eu dwyn o bedair llong a suddodd ger arfordir Malaysia ac Indonesia.
Daw hyn yn dilyn pryderon bod chwe llongddrylliad, gan gynnwys llongau’r Llynges HMS Prince of Wales a HMS Repulse, wedi cael eu difrodi wrth i ddeifwyr chwilio am fetelau fel dur.
Credir bod cannoedd o forwyr y Llynges a phobol gyffredin wedi eu lladd yn y safleoedd yma yn ystod y rhyfel.
Dywedodd Gavin Williamson bod y Llywodraeth yn condemnio unrhyw weithred sydd heb gael ei awdurdodi i archwilio llongddrylliadau sy’n cynnwys gweddillion dynol.
Ychwanegodd y byddai’n “gweithio’n agos gyda llywodraethau Indonesia a Malaysia i ymchwilio i’r honiadau yma.”