Mae dyn 80 oed wedi’i anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei drywanu mewn mosg ger Manceinion.

Mae dyn yn ei 20au – un o gyd-addolwyr yn y mosg – wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad ddoe (dydd Gwener, Awst 17).

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r mosg yn Whalley Range toc cyn 1.50yo, ac fe gafodd y gwr 80 oed ei gludo o’r ysbyty.

Mae llu Greater Manchester yn ymchwilio i’r digwyddiad, ond maen nhw’n dweud nad yw’r achos yn cael eo ystyried fel trosedd gasineb.