Mae defnydd hamdden o’r cyffur lladd poen cryf, Ketamine, wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, tra bod cymryd cyffuriau yn gyffredinol wedi aros yn gyson.

Mae un o bob 11 oedolyn rhwng 16 a 59 oed yng ngwledydd Prydain wedi cymryd sylwedd anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl canlyniadau arolwg 2017/18.

Mae’r gyfran hon (9%) yn cyfateb i tua tair miliwn o bobol.

Dywed y Swyddfa Gartref fod y duedd wedi bod yn gymharol wastad ers 2009/10 (rhwng 8% a 9%), ac mae’r cynnydd diweddaraf yn debyg i’r hyn yr oedd arolwg 2007/08 (9.4%) yn ei ddangos.

Canabis yw’r cyffur fwyaf cyffredin, gyda 7.2% o’r ymatebwyr wedi ei gymryd yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae 2.6% wedi cymryd powdwr cocên.

Mae’r defnydd o ketaminau wedi dyblu o 0.4% i 0.8%, gan gyfateb i 141,000 o bobl yn defnyddio’r cyffur nag yn y flwyddyn flaenorol.

Dyma’r ffigwr uchaf ers i’r arolwg ddechrau cofnodi defnydd o’r cyffur yn 2006/07.