Mae llong ymchwil daearyddol sydd wedi’i henwi ar ôl Syr David Attenborough wedi cael ei lansio i’r afon Mersi ganddo yn iard longau Cammell Laird yn Birkenhead.

“Roedd gweld fy enw ar y llong wrth iddi daro’r dŵr yn deimlad emosiynol iawn ac yn anrhydedd mawr,” meddai’r naturiaethwr 92 oed.

“Mae’n hyfryd meddwl y bydd hi’n mynd i ben draw’r byd i wneud gwaith gwerthfawr gan bobl o’r wlad yma i ddysgu hynny ag y gallan nhw am ein planed.”

Hon yw’r llong anfilwrol fwyaf i gael ei hadeiladu yn y Deyrnas Unedig ers 30 mlynedd, a bydd yn lletya 60 o wyddonwyr ar deithiau ymchwil i Antarctica.

“Mae’r peryglon sy’n wynebu’r blaned hon yn llawer, llawer mwy nag yn ei holl hanes, neu o leiaf ers diwedd oes y deinosoriaid,” meddai David Attenborough.

“Mae’n rhaid ichi wybod beth ydyn nhw cyn y gallwch eu datrys, felly mae’r llong am fod yn allweddol i ddyfodol ein planed.”