Mae Tesco wedi cyhoeddi eu bod am ffurfio “perthynas strategol” â chwmni Carrefour.

Dan y drefn hon, bydd y cwmnïau yn cydweithio wrth ddelio â chyflenwyr rhyngwladol, gan eu galluogi i werthu nwyddau am brisiau is.

Mae’n bosib bydd y cam hefyd yn helpu Tesco i gystadlu yn erbyn Lidl ac Asda – archfarchnadoedd sydd wedi elwa o werthu nwyddau rhatach.

“Trwy gydweithio ac elwa ar arbenigedd ein gilydd, mi fyddwn yn medru gwasanaethu ein cwsmeriaid yn well,” meddai Prif Weithredwr Tesco, Dave Lewis.

“Bydd hyn yn gwella dewis, ansawdd a phrisiau nwyddau ymhellach.”

Uno

Mae dau gwmni arall yn y sector – Asda a Sainsbury’s – eisoes wedi datgan cynlluniau tebyg i gydweithio a herio eu cystadleuwyr.

Mae cynlluniau ar y gweill i uno’r ddau gwmni, ac mi fyddai unrhyw gytundeb gwerth rhyw £12biliwn.