Disgynnodd chwyddiant i’w lefel isaf mewn blwyddyn ym mis Ebrill eleni – a hynny er gwaetha’r cynnydd ym mhris tanwydd.

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau yn dangos bod chwyddiant wedi disgyn i 2.4% mis diwetha’, sydd rhywfaint yn is na’r ganran ym mis Mawrth, sef 2.5%.

Roedd economegwyr wedi disgwyl i’r gyfradd aros ar yr un lefel.

Cynyddodd prisiau petrol gan 1.5 ceiniog am bob litr rhwng Mawrth ac Ebrill, ac mi gynyddodd disel gan 1.6 ceiniog dros yr un cyfnod.

Mae disgwyl i brisiau olew gynyddu eto dros yr haf, gan roi rhagor o bwysau ar y cyhoedd.