Mae’r cwmni archfarchnad, Marks & Spencer, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mai 22) y byddan nhw’n cau dros 100 o’i siopau erbyn 2022, a hynny mewn ymgais i arbed arian.

Mi fydd y cam hwn yn rhoi miloedd o swyddi yn y fantol, ac mae’r cwmni eisoes wedi enwi 14 o’r siopau a fydd yn cau o fewn y pum mlynedd nesaf – gan ychwanegu at y 21 sydd wedi cau’n barod ers 2016.

Mae pob un o’r 14 siop yn Lloegr, ac fe fydd eu cau yn effeithio cyfanswm o 872 o weithwyr.

Problemau Marks & Spencer

Mae’r penderfyniad i gau cymaint o siopau o ganlyniad i gynllun pum mlynedd cadeirydd Marks & Spencer, Archie Norman, a’r prif weithredwr, Steve Rowe.

Bwriad y cynllun yw cau siopau a chanolfannau dosbarthu mewn ymgais i arbed arian, a hynny wrth i’r cwmni ddioddef o golledion ariannol.

Daw’r cyhoeddiad heddiw ddiwrnod cyn y bydd Marks & Spencer yn cyhoeddi eu hadroddiad ariannol blynyddol, gyda disgwyl i hwnnw ddangos rhagor o golledion i elw’r cwmni.