Mae’n ymddangos fod Llafur a’r Torïaid mor rhanedig ag erioed ar Brexit, wrth i arweinwyr y ddwy blaid ddod o dan feirniadaeth flynyddol gan eu haelodau eu hunain.

Mae gwleidyddion blaenllaw Llafur yn ddig gyda Jeremy Corbyn ar ôl i arglwyddi eu plaid gael eu gorchymyn i ymatal mewn pleidlais yn Nhŷ’r Arglwyddi ar i Brydain barhau’n aelod o farchnad sengl Ewrop.

“Mae mwyafrif llethol ein haelodau yn cefnogi aelodaeth o’r Farchnad Sengl,” meddai’r AS Chukka Umunna.

“Mae’r TUC a’r undebau’n ei gefnogi, cafodd ASau Llafur eu chwipio yn Nhŷ’r Cyffredin i bleidleisio drosto. Ac eto, pan fo digon o wrthryfelwyr Torïaidd, rydym yn ymatal – mae hyn yn chwerthinllyd.

“Er mwyn osgoi ffin galed yn Iwerddon, mae angen inni gymryd rhan yn undeb tollau a marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.”

Pwysau ar Theresa May

Ar yr un pryd, mae’r Prif Weinidog Theresa May yn wynebu pwysau cynyddol gan ddwy ochr ei phlaid.

Mae’r garfan wrth-Ewropeaidd yn pwyso arni i roi’r gorau i’w syniad o ‘bartneriaeth tollau’ gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn ar ôl i’r syniad gael ei wrthod gan fwyafrif aelodau ei phwyllgor Brexit yr wythnos ddiwethaf.

Ar yr un pryd, mae Torïaid cefnogol i’r Undeb Ewropeaidd yn ceisio manteisio ar y diffyg cytundeb yn y cabinet a buddugoliaethau yn Nhŷ’r Arglwyddi, trwy bwyso ar Theresa May i newid cyfeiriad, ac ymrwymo i geisio statws tebyg i Norwy.

Mewn erthygl yn y Sun, fodd bynnag, dywed Theresa May ei bod “yn gwbl benderfynol o wneud llwyddiant o Brexit, trwy adael y farchnad sengl a’r undeb tollau ac adeiladau partneriaeth newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n adennill rheolaeth o’n ffiniau, ein cyfreithiau a’n harian.”