Mae Duges Caergrawnt wedi rhoi genedigaeth i fachgen y bore ma.

Dyma ei thrydydd plentyn hi a’i gŵr, y tywysog William, a’u hail fab.

Fe gafodd y bachgen ei eni toc wedi 11yb heddiw (dydd Llun, Ebrill 23), gan bwyso 8 pwys 7owns.

Fel gor-ŵyr y Frenhines Elizabeth II, y newydd-anedig yw’r pumed yn yr olyniaeth i orsedd Lloegr, a hynny ar ôl ei dad-cu, Charles, ei dad, William, ei frawd, George, a’i chwaer, Charlotte.

Mae’r baban wedi’i eni ar Ddiwrnod San Siôr, nawddsant Lloegr, a dau ddiwrnod cyn pen-blwydd y Frenhines yn 92 oed.