Mae corff sy’n cynrychioli plismyn yn dweud bod wyth bob deg ohonyn nhw yn dangos arwyddion o bryder neu iselder.

Mae heddluoedd yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi bod yn canslo dyddiau gorffwys gan olygu fod arnyn nhw filoedd o ddyddiau o amser bant i’w swyddogion.

Pwysau gwaith, argyfyngau a diffyg adnoddau lles sy’n gyfrifol am y problemau yn ôl Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Calum Macleod.

Mae gwasanaethau i gynghori plismyn am eu hiechyd a’u lles wedi eu torri neu eu rhoi yn nwylo cwmnïau o’r tu allan, meddai, ac mae’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn gwaethygu pethau hefyd.

Dyddiau rhydd – y ffigurau

Mae dau o heddluoedd Cymru wedi datgelu ffigurau sy’n dangos bod plismyn yn methu â chymryd y dyddiau rhydd sy’n ddyledus iddyn nhw.

  • Yn Ne Cymru, mae yna 35,872 o ddyddiau rhydd heb eu defnyddio neu wedi gorfod cael eu canslo – i 2862 o swyddogion.
  • Yn Heddlu Dyfed-Powys, mae 6,543 o ddyddiau’n ddyledus i 979 o swyddogion.
  • Wnaeth Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru ddim datgelu’r ffigurau wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan y Press Association.

‘Codi dychryn’

Mae’r ffigwr am iselder a phryder yn un i godi dychryn, meddai Calum Macleod, gan roi’r bai yn rhannol ar ddiffyg cyfle i blismyn orffwys.

“Mae angen iddyn nhw ddod atyn nhw eu hunain er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd,” meddai.

“Gwraidd hyn yw eu bod yn gwneud gormod, heb ddigon o gefnogaeth a heb ddigon o orffwys.”