Prydain oedd yn gyfrifol am wenwyno’r cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal a’i ferch Yulia, yn ôl Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov.

Daeth ei sylwadau yn ei ymateb i’r cyrchoedd awyr gan Brydain, yr Unol Daleithiau a Ffrainc tros Syria nos Wener, lle’r oedd e’n feirniadol o’r “ffeithiau” a gafodd eu defnyddio i gyfiawnhau’r cyrchoedd.

Dywedodd nad oedd Rwsia’n ymwybodol o’r ffeithiau hynny, a bod llywodraeth Syria yn barod i gydweithredu ag ymchwiliad i’r defnydd o arfau cemegol yn ninas Douma ar Ebrill 7, pan gafodd degau o bobol eu lladd.

Mewn datganiad yn gynharach, roedd Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi cysylltu’r gwenwyno yn Salisbury gyda’r defnydd o arfau cemegol gan Arlywydd Syria, Bashar Assad.

Ond mae Sergey Lavrov yn gwadu bod y fath arfau wedi cael eu datblygu gyda chymorth Rwsia, ac mae’n beirniadu Prydain am anwybyddu tystiolaeth gan arbenigwyr yn y Swistir.