Mae trefnwyr gorymdaith i Stormont tros ddyfodol yr iaith Wyddeleg yn dweud eu bod nhw am gael “hawliau, parch a chydnabyddiaeth”.

Bydd yr orymdaith yn cael ei chynnal am 11 o’r gloch fore heddiw (dydd Iau, Chwefror 1), ac yn mynd o Gastell Stormont i risiau adeilad y llywodraeth.

Fe fydd y gymuned iaith Wyddeleg yn rhan o’r digwyddiad i alw pobol ynghyd i weithredu er mwyn sicrhau hawliau i’r iaith ar ran “y gymuned, pobol ifanc ac ysgolion”.

Mae pob Aelod Cynulliad wedi derbyn gwahoddiad i’r orymdaith hefyd.

“Bydd y digwyddiad yfory unwaith eto’n gweld y genhedlaeth newydd o siaradwyr Gwyddeleg o dan y chwyddwydr,” meddai un o drefnwyr yr ymgyrch, Ciarán Mac Giolla Bhéin.

“Fe fydd siaradwyr Gwyddeleg ifanc, arddegwyr a myfyrwyr ifainc y Gaelscoileanna (ysgolion) lleol, ynghyd â rhieni a chynrychiolwyr eraill o’r gymuned Wyddeleg, yn cymryd rhan mewn gorymdaith weithgar i brotestio yn erbyn y methiant i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg fel a gytunwyd eisoes dros ddeng mlynedd yn ôl yn St Andrew’s.”

Dywedodd fod y pwyslais ar roi pwysau ar yr Ysgrifennydd Gwladol Karen Bradley a’r Tánaiste Simon Coveney fel cynrychiolwyr Cytundeb St Andrew’s.

“Mae’r gymuned yn galw am Ddeddf Iaith Wyddeleg sy’n sefyll ar ei phen ei hun ac yn seiliedig ar hawliau heb ragor o oedi ac yn gofyn i’r pleidiau hynny sydd wedi cefnogi ein hymgyrch i sefyll gyda ni.”