Mae unig oroeswr cyflafan Kingsmill yng Ngogledd Iwerddon wedi cyhuddo Aelod Seneddol Sinn Fein o “ddathlu’r digwyddiad” ar wefannau cymdeithasol.

Roedd Alan Black ymhlith criw o Brotestaniaid a gafodd eu tynnu oddi ar fws a’u saethu ar ymyl y ffordd yn Ne Armagh yn 1976.

Bu farw deg o bobol, ac fe gafodd Alan Black anafiadau.

42 o flynyddoedd union ers y digwyddiad, postiodd yr Aelod Seneddol Barry McElduff fideo ohono fe ei hun yn dal torth o fara Kingsmill ar ei ben yn gofyn lle mae’r bara.

Dywedodd Alan Black fod Barry McElduff wedi “dawnsio ar fedd” y meirw.

Mae’r Aelod Seneddol wedi ymddiheuro, ond roedd yn mynnu nad oedd y digwyddiad yn cyfeirio at y gyflafan.

Wfftio

Ond mae Alan Black wedi wfftio’r eglurhad mewn cyfweliad â gorsaf radio RTE.

“Dw i ddim yn derbyn hynny,” meddai. “Mae e’n wleidydd craff iawn. Mae’n ddyn clyfar iawn.”

Ychwanegodd fod y digwyddiad yn un “bwriadol er mwyn achosi loes”.

Cafodd Barry McElduff ei wahardd am dri mis gan ei blaid, ond fe gafodd y gosb ei beirniadu gan unoliaethwyr.