Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi y bydd gwerthu a gwneud ffyn cotwm plastig yn cael ei wahardd yn y wlad.

Dywed Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Roseanna Cunningham, bod gweinidogion am gyhoeddi deddfwriaeth i gyflwyno gwaharddiad.

Byddai hynny’n golygu mai’r Alban fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddeddfu yn erbyn eitemau sy’n wael i’r amgylchedd.

Ffyn cotwm plastig sydd ymhlith y darnau mwyaf cyffredin o sbwriel ar draethau ac mae ymgyrchwyr wedi disgrifio’r gwaharddiad arfaethedig fel “newyddion gwych i’r amgylchedd ac i fywyd gwyllt.”

Gallai gwahardd y ffyn helpu i haneru llygredd plastig yn y môr, yn ôl Cyfeillion y Ddaear yn yr Alban.

Bydd y Llywodraeth nawr yn cynnal ymgynghoriad ar ei bwriad.

Mae’r cynlluniau yn dod wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, gyhoeddi cynlluniau i ddileu pob math o wastraff plastig sy’n bosib ei osgoi o fewn 25 mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno treth ar blastig un tro ar hyn o bryd.