Mae Toby Young wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu o fwrdd rheolwr prifysgolion Lloegr gan ddweud bod ei benodiad wedi “tynnu gormod o sylw”.

Ymddiheurodd y cyn-newyddiadurwr yn “ddiffuant”, meddai, am gyfres o sylwadau dadleuol ar rwydweithiau cymdeithasol.

Roedd ei benodiad wedi denu llid Aelodau Seneddol yn San Steffan, gan gynnwys nifer o Geidwadwyr amlwg.

“Mae pawb sy’n fy nabod yn dda yn gwybod nad oes tebygrwydd â’r darlun ohonof sydd wedi ei greu dros y dyddiau diwethaf,” meddai Toby Young yn The Spectator.

“Rydw i’n chwyrn o blaid helpu’r difreintiedig fel y mae fy ngwaith wrth sefydlu a chefnogi ysgolion newydd yn ei ddangos.

“Ond fe ddywedais i rai pethau tra’r oeddwn i’n newyddiadurwr pryfoclyd a oedd yn anghywir neu’n annoeth – ac rwy’n ymddiheuro’n daer am hynny.”

Roedd deiseb yn galw am ddiswyddo Toby Young o Swyddfa’r Myfyrwyr wedi denu dros 219,000 o lofnodion arlein.

Gorfodwyd Theresa May i amddiffyn ei benodiad mewn cyfweliad teledu ddydd Sul. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o’i sylwadau amrwd a rhywiaethol ar y pryd.