Mae gwraig o wledydd Prydain wedi’i charcharu am dair blynedd am “smyglo” cyffuriau i mewn i wlad yr Aifft.

Fe gafodd Laura Plummer, 33, o Hull, ei harestio wedi i’r awdurdodau sylwi ei bod yn cario 290 o dabledi Tramadol yn ei chês gwyliau – tabledi poen sy’n hollol gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig, ond sydd wedi’u gwahardd yn yr Aifft.

Yn ôl teulu Laura Plummer, roedd hi’n mynd â’r tabledi i’w phartner Omar Caboo, sy’n diodde’ o boen cefn difrifol.

Ac eto yn ôl y teulu, mae ei chyfreithwyr wedi apelio’n syth yn erbyn y ddedfryd o dair blynedd.

Mae Laura Plummer yn cael ei dal yn Hurghada, lle cafodd ei harestio yn y maes awyr ar Hydref 9. R0edd ei theulu wedi cael rhybudd y gallai wynebu hyd at 25 mlynedd dan glo, gydag un cyfreithwyr hyd yn oed yn sôn am y gosb eithaf.