Mae arweinydd Ceidwadwyr yr Alban wedi rhybuddio’r Prif Weinidog, Theresa May, i beidio â chefnogi cytundeb Brexit fyddai’n “tanseilio undod” y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n cydnabod cymhlethdod y trafodaethau,” meddai Arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson mewn neges ar Twitter.

“Ond ni ddylai unrhyw Lywodraeth dan y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol, gefnogi dêl fyddai’n tanseilio undod gwleidyddol, economaidd a chyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.”

Y ffin Wyddelig

Daw’r rhybudd yn sgil adroddiadau y gallai ffin economaidd godi rhwng Gogledd Iwerddon a gwledydd Prydain yn dilyn Brexit.

Mae ffin Iwerddon yn peri maen tramgwydd i drafodaethau Brexit, ac mae’n debyg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cyflwyno trefniadau arbennig yng Ngogledd Iwerddon.

Mae plaid y DUP – sydd yn cadw llywodraeth leiafrifol Theresa May mewn grym – eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n derbyn y fath gynllun.