Mae’r blaid Lafur wedi gwahardd dros-dro y cyn-weinidog, Ivan Lewis, yn dilyn cwyn ynglyn â’i ymddygiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill gan swyddogion y blaid i Aelod Seneddol De Bury, o ganlyniad i’r honiad sydd wedi’i ddwyn yn ei erbyn.

“Mae’r blaid Lafur yn cymryd pob cyhuddiad o aflonyddu rhywiol o ddifrif,” meddai llefarydd.

“Mae Ivan Lewis wedi’i wahardd dros-dro o’r blaid tra bod ymchwilad yn digwydd.”