Cwmni Apple yw’r diweddaraf i ddod o dan y lach wedi i’r Papurau Paradwys ddatgelu eu bod yn buddsoddi arian ar Ynys Jersey.

Mae’n debyg fod y cwmni wedi symud cyfran o’u harian i’r ynys yn dilyn newid yng nghyfreithiau trethi Iwerddon.

Ond mae’r cwmni’n mynnu nad ydyn nhw’n osgoi nac yn talu llai o drethi drwy gadw’r arian ar yr ynys.

Maen nhw’n ychwanegu mai nhw yw’r trethdalwyr mwya’ yn y byd ac wedi talu £26 biliwn mewn treth gorfforaethol dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Jersey yn dweud y byddan nhw’n ymchwilio i honiadau’r Papurau Paradwys gan ddweud nad yw’n “foddhaol” i gwmnïau fanteisio ar noddfa drethi’r ynys heb “arddangos sylwedd” yno.

Papurau Paradwys

Daw’r honiadau hyn wedi i’r wasg ddatgelu ddoe fod y Frenhines wedi buddsoddi £10 miliwn o gyllid personol, Duchy of Lancaster, ar Ynysoedd Cayman a Bermuda rhwng 2004 a 2005.

Ymysg yr enwau eraill sy’n rhan o’r helynt mae’r Arglwydd Ashcroft, y gyrrwr rasio Lewis Hamilton ac Ysgrifennydd Masnach Donald Trump, Wilbur Ross.