Mae un o swyddogion Banc Lloegr yn rhybuddio y gall 10,000 o swyddi gwasanaethau ariannol gael eu colli ar y diwrnod cyntaf o Brexit.

Mae nhw hefyd wedi ymateb i adroddiad annibynnol a oedd yn dweud y gall y ffigwr hwn fod cyn uched â 75,000 o swyddi – gyda’r Banc yn dweud bod y rhagolwg hwn yn un “teg”.

Wrth siarad i is-bwyllgor materion ariannol yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedodd un o benaethiaid Banc Lloegr, Sam Woods, fod y ffigwr o 75,000 sydd wedi cael ei nodi mewn adroddiad annibynnol a wnaed gan y cwmni ymgymghorol, Oliver Wyman, yn 2016, yn cynnig “rhagolwg teg” o’r math o effaith y bydd Brexit yn ei gael ar wasanaethau ariannol.

Ychwanegodd mai’r modd y daeth yr adroddiad at y ffigwr hwn oedd trwy edrych ar y canlyniad gwaethaf a all ddod yn sgil Brexit, sef bod sector y gwasanethau ariannol yn gweld cwymp o 10% mewn cyllid, a fydd yn arwain yn y pen-draw at rhwng 65,000 i 75,000 o swyddi yn cael eu colli.

Ffigwr “lot llai” gan Fanc Lloegr

Ond fel un sydd wedi gweld y cynllun Brexit sy’n ymwneud â banciau a chwmniau gwasanaethau ariannol, roedd yntau’n rhag-weld y bydd tua 10,000 o swydd yn cael eu colli ar y diwrnod cyntaf o Brexit, ac y bydd yn “syndod” iddo os bydd y ffigwr yn fwy na hynny.

“I roi hyn mewn cyd-destun”, meddai, “mae hyn yn llai nag 1% o swyddi’r gwasanaethau ariannol.

“Mae o gwmpas 2% o swyddi bancio ac yswiriant, neu 2% i 3% o swyddi’r ddinas os ydych chi’n defnyddio rhifiadur arall.

Mae hyn yn ffigwr lot llai, dyw e ddim yn ffigwr anarwyddocaol, ond mae e dipyn yn llai.”