Mae Banc Lloegr wedi cadw cyfraddau llog ar eu lefel isaf erioed o 0.5% am fis arall – yn wyneb ofnau cynyddol fod economi’r byd yn llithro’n ôl i ddirwasgiad.

Daw penderfyniad Banc Lloegr i gadw cyfraddau fel y maent am y 29fed mis yn olynol ddiwrnod ar ôl cwymp o 2.3% yng ngwerth cyfranddaliadau’r mynegai FTSE 100.

Dyma’r cwymp mwyaf mewn un diwrnod ers mis Tachwedd y llynedd.

Mae’r pwysau ar y Banc wedi dwysáu dros y dyddiau diwethaf yn sgil yr argyfwng dyledion yn yr Eidal a Sbaen, sydd wedi arwain at ofnau y bydd ar y ddwy wlad hyn angen benthyciadau tebyg i wlad Groeg.

Rhybuddiodd y Banc yn ei gyfarfod y mis diwethaf fod peryglon sylweddol i Brydain yn sgil y sefyllfa ddyledion ym mharth yr Ewro.

Y gred ymhlith economegwyr bellach yw y gallai cyfraddau llog gael eu cadw fel y maent tan y flwyddyn nesaf yn sgil ansicrwydd y rhagolygon am dwf ariannol.