Mae llys wedi clywed heddiw bod rheol sy’n gorfodi mewnfudwyr i ddysgu Saesneg cyn symud i Brydain yn mynd yn erbyn eu hawliau dynol.

Clywodd yr Uchel Lys yn Birmingham fod y rheol iaith yn torri nifer o gymalau’r confensiwn hawliau dynol Ewropeaidd wrth orfodi dyn o India i ddysgu’r Saesneg cyn cael symud i fyw yn Lloegr.

Mae Rashida Chapti, 54, sy’n ddinesydd Prydeinig, ei gŵr Vali Chapti, 57, o India, ynghyd â dau gwpwl arall, wedi galw adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys er mwyn herio’r rheol.

Mae’r cyplau yn honni fod y rheol yn torri nifer o gymalau’r confensiwn hawliau dynnol Ewropeaidd, gan gynnwys yr hawl i fywyd teuluol, yr hawl i briodi, a’r gwaharddiad ar anffafriaeth.

Mae Rashida a Vali Chapti wedi bod yn briod ers 37 mlynedd, ac mae ganddynt saith o blant.

Yn ôl adroddiadau, mae Rashida Chapti wedi bod yn teithio rhwng ei chartref yn Leicester a’i gŵr yn India dros y bymtheg mlynedd ddiwethaf, ond mae ei gŵr bellach wedi gwneud cais i ymuno â’i wraig ym Mhrydain.

Gan nad yw Vali Chapti yn medru siarad, ysgrifennu na darllen Saesneg, mae rheolau newydd ar fewnfudo yn ei wahardd rhag dod i fyw yn y Deyrnas Unedig.

Cyflwynwyd y rheolau newydd hyn gan Theresa May ym Mehefin 2010, ac maen nhw wedi bod mewn grym ers mis Tachwedd y llynedd.

Y gred yw eu bod yn rhan o gynllun ehangach y llywodraeth i leihau’r nifer o fewnfudwyr i Brydain bob blwyddyn.

Ond heddiw, yn yr Uchel Lys yn Birmingham, cafodd y rheol iaith ei gondemnio gan fargyfreithiwr y cyplau, gan ddweud fod y rheol nid yn unig yn atal yr hawl i briodi ac i fywyd teuluol, ond ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn pobol ar sail “cenedl a hil.”