Un o ganghennau Northern Rock
Fe gadarnhaodd y Canghellor ei fod yn chwilio am rywun i brynu Banc Northern Rock.
Ac fe wnaeth yn glir mai dyma’r cam cynta’ at breifateiddio gweddill y banciau a oedd wedi gorfod cael eu hachub gan y Llywodraeth.
Roedd yn amser “gadael y sector”, meddai George Osborne.
Symbol
Yn araith flynyddol Mansion House, fe gyhoeddodd y Canghellor hefyd y byddai’n rhaid i fanciau wneud mwy i wahanu gwahanol rannau eu busnes er mwyn diogelu cwsmeriaid cyffredin.
“Roedd lluniau o’r ciwiau y tu allan i ganghennau Northern Rock yn symbol o’r cyfan a aeth o le ac fe wnaeth y chwalfa anhrefnus ddrwg mawr i enw rhyngwladol Prydain,” meddai.
“Byddai ei ddychwelyd i’r sector preifat yn awr yn help i adfer yr enw da yna. Fe fyddai’n arwydd o hyder ac fe allai gynyddu’r gystadleuaeth ymhlith banciau’r stryd fawr.”
Y cefndir
Yn anterth yr argyfwng ariannol yn 2009, fe gafodd Northern Rock ei wladoli’n llwyr ac fe gymerodd y Llywodraeth gyfran fawr o fanciau Lloyds a’r RBS.
Mae symiau o tua £1 biliwn wedi eu crybwyll yn achos Northern Rock, gyda rhes o brynwyr posib yn dangos diddordeb – gan gynnwys Virgin Money, dwy gymdeithas adeiladu, dau fusnes buddsoddi a Banc Tesco.