William, Dug Caergrawnt
Mae Dug Caergrawnt wedi marchogaeth ei geffyl i lawr y Mall o Balas Buckingham heddiw, wrth ymarfer gogyfer â seremoni The Trooping of the Colour ar ben-blwydd swyddogol ei nain, y Frenhines.

Ceffyl llwyd o’r enw Wellesley oedd yr un oedd y Tywysog William yn ei farchogaeth, ac yntau wedi ei wisgo yn iwnifform goch y gwarchodlu a’r het uchel draddodiadol. Roedd William yn marchogaeth y tu ôl i gefnder ei nain, Dug Caint.

Roedd cannoedd o filwyr allan yn ymarfer ar gyfer y digwyddiad sy’n digwydd wythnos cyn pen-blwydd swyddogol y Frenhines. Dydi William ddim wedi cymryd rhan yn y Trooping of the Colour cyn hyn.