Elfyn Llwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi mynegi pryder ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, ganiatáu i’r lluoedd arfog ddefnyddio hofrenyddion Apache yn Libya.

Bydd pedwar o’r hofrenyddion yn dechrau ymosod ar danciau’r Cyrnol Gaddafi yr wythnos yma yn y gobaith o roi rhagor o bwysau ar yr unben i ildio’r frwydr.

Mae’r penderfyniad yn un mentrus am ei fod yn llawer haws taro hofrenyddion nag awyrennau â thaflegrau a bwledi.

Dywedodd Elfyn Llwyd ei fod yn gobeithio bod Llywodraeth San Steffan wedi dysgu gwersi Irac, ac nad oedden nhw’n cael ei llosgo mewn i ryfel arall fyddai’n arwain at farwolaeth cannoedd o filwyr Prydeinig yn ogystal â miloedd o ddinasyddion.

Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd fod yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, wedi cyfaddef ar raglen Andrew Marr ddydd Sul y byddai defnyddio hofrenyddion yn cynyddu’r perygl y gallai aelodau o fyddin Prydain gael eu lladd.

Dylai unrhyw weithredu milwrol yn y wlad yng Ngogledd Affrica aros o fewn cyfyngiadau penderfyniad y Cenhedloedd Unedig, sef amddiffyn dinasyddion, meddai.

“Mae’n newid sylweddol, os yw’r Llywodraeth yn cyfaddef hynny ai peidio,” meddai.

“Drwy anfon hofrenyddion Apache i’r wlad, a yw Prydain ballech yn chwarae rhan fwy blaenllaw yn y rhyfel yn Libya?

“Rhaid i ni gael gwybod a ydyn nhw’n cymryd y cam yma er mwyn amddiffyn dinasyddion ynteu a yw’n tynnu’n groes i benderfyniad y Cenhedloedd Unedig.

“Fe fyddaf i’n galw am drafodaeth ddwys ynglŷn â Libya o fewn amser y llywodraeth ar ôl dychwelyd i San Steffan. Mae yna sawl cwestiwn sydd angen eu trafod ar fyrder.”