Max Mosley
Ni fydd rhai i bapurau newydd roi gwybod i bobol cyn cyhoeddi manylion am eu bywydau personol, ar ôl i gyn-fos Formula 1, Max Mosley, golli ei achos yn Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Mae Max Mosley wedi bod yn ymgyrchu ers i bapur newydd News of the World ddatgelu manylion ynglŷn â’i fywyd rhywiol.

Yn 2008 derbyniodd £60,000 mewn iawndal ar ôl i Uchel Lys y Deyrnas Unedig benderfynu nad oedd modd cyfiawnhau’r stori dudalen flaen a lluniau ohono â phum putain yn ei fflat.

Dywedodd ei gyfreithiwr wrth Lys Hawliau Dynol Ewrop fod papurau newydd oedd ddim yn rhoi gwybod i’w “dioddefwyr” cyn datgelu manylion am eu bywydau person yn mynd yn groes i Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.

Byddai “cael gwybod o flaen llaw” wedi rhoi cyfle i Max Mosley sicrhau gwaharddeb er mwyn atal y papur newydd rhag cyhoeddi’r manylion.

Ond mewn datganiad heddiw dywedodd y llys nad yw “Llys Hawliau Dynol Ewrop yn mynnu fod y cyfryngau yn rhoi gwybod o flaen llaw i bobol sy’n cael eu crybwyll mewn cyhoeddiadau”.

Dywedodd y llys fod yr hawl i fywyd preifat eisoes wedi ei ddiogelu mewn sawl modd yn y Deyrnas Unedig/

Roedd San Steffan eisoes wedi cynnal ymchwiliad ar y mater ac wedi penderfynu nad oedd angen ‘rhoi gwybod o flaen llaw’, meddai’r llys.