Ynysoedd Syllan - y lle cynhesaf (efallai)
Mae hysbyseb Jersey sy’n honni mai’r ynys yw’r lle cynhesaf ar Ynysoedd Prydain yn bwnc llosg ar Ynysoedd Syllan.

Mae swyddogion twristiaeth yr ynysoedd oddi ar arfordir Cernyw yn anhapus â honiad yr ymgyrch farchnata £1m mai’r mwyaf o Ynysoedd y Sianel yw’n man cynhesaf.

Mae data’r Swyddfa Dywydd sy’n dangos tymheredd cyfartalog yr ynysoedd yn awgrymu mai Ynysoedd Syllan yw’r lle poethaf yn Ynysoedd Prydain.

Yn ôl Adran Dywydd Jersey, 8.9 gradd Celsius yw’r tymheredd cyfartalog yno, tra bod tymheredd cyfartalog ynys St Mary’s, y mwyaf o Ynysoedd Syllan, yn 9.4 gradd Celsius yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae Cyngor Ynysoedd Syllan hefyd yn honni nad ydi Jersey yn rhan o Ynysoedd Prydain yn y lle cyntaf, er ei bod yn eiddo i’r Goron.

Dywedodd Julian Pearce, o swyddfa datblygiad economaidd Ynysoedd Syllan, wrth bapur newydd y Guardian ei fod yn “bwriadu ysgrifennu at Jersey i’w hatgoffa o’n lleoliad daearyddol a’r ffaith mai ni yw’r lle cynhesaf yn y Deyrnas Unedig”.

Ychwanegodd ei fod yn ymchwilio i weld a oedd yna sail i wneud cwyn i’r Awdurdod Safonau Hysbysebion.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dwristiaeth Jersey eu bod nhw’n wleidyddol yn rhan o Ynysoedd Prydain, os nad yn ddaearyddol.

Mynnodd mai nod yr hysbyseb oedd awgrymu mai pobol Jersey oedd y mwyaf twym galon yn Ynysoedd Prydain.