Dywed arweinwyr undebau nad ydyn nhw am adael i’r helyntion a ddigwyddodd yn Llundain neithiwr eu rhwystro rhag parhau i ymgyrchu yn erbyn toriadau’r llywodraeth ar wario cyhoeddus.

Tra oedd cannoedd o filoedd yn gorymdeithio’n heddychlon trwy ganol Llundain i rali yn Hyde Park ddoe, fe fu criw o bobl ifanc, yn gwisgo sgarffiau i guddio’u hwynebau, yn ymosod ar siopau a banciau, gan achosi gwerth degau o filoedd o bunnau o ddifrod.

Fe waethygodd pethau’n ddrwg erbyn neithiwr, pryd y bu gwrthdaro treisgar rhwng protestwyr a phlismyn yn Sgwâr Trafalgar.

Dywed Heddlu Llundain iddyn nhw arestio 201 o bobl, ac i’r rhain cael eu cadw mewn 21 o orsafoedd heddlu yma ac acw yn Llundain. Mae’r heddlu bellach yn edrych ar dystiolaeth a gasglwyd gan deledu cylch cyfyng a chan blismyn.

Mae olion y llanast yn cael yn weladwy heddiw, gyda phaent coch yn dal ar y cloc Olympaidd, y geiriau ‘Tory scum’ wedi eu paentio ar un o’r llewod efydd yn y sgwâr, a phoster yn dweud ‘hands off Libya’ wedi ei osod ar ddelw’r brenin Siarl I.

‘Mwy na’r disgwyl’

Dywedodd Brendan Barber, ysgrifennydd cyffredinol y TUC, a drefnodd y brotest fod mwy na’r disgwyl wedi cymryd rhan yn y digwyddiad mwyaf o’i fath ers 20 mlynedd.

“Rydyn ni’n falch o’r ffordd y gwnaethon ni drefnu’n gorymdaith a’r ffordd y gwnaeth ein stiwardiaid helpu sicrhau digwyddiad heddychlon a chyfeillgar,” meddai.

“Wrth gwrs, rydym yn condemnio’r niferoedd bach a ddaeth i chwilio am drais ond wnawn ni ddim gadael i’w gweithredoedd nhw – mewn lleoedd i ffwrdd o’n digwyddiad ni – dynnu sylw oddi wrth ein hymgyrch.”

Fe ddywedodd ysgrifennydd amddiffyn yr wrthblaid, Jim Murphy, mai “lleiafrif bach o hwliganiaid treisgar, parasitig ac anghynrychioliadol” oedd yn gyfrifol am y trais.

Mae undebau’n cynllunio ymgyrchoedd eraill dros y dyddiau nesaf yn erbyn toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd yn ogystal ag ystyried gweithredu diwydiannol.