Mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu peidio gostwng y terfyn yfed a gyrru i’r un lefel a’r cyfandir.

Roedd adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Whitehall y llynedd wedi galw am leihau’r cyfyngiad o 80mg o alcohol y 100ml o waed i 50mg.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, ei fod yn bwysicach gwneud rhagor i ddal pobol oedd dros y terfyn yfed a gyrru.

Penderfynodd fwrw ymlaen â buddsoddi mewn offer soffistigedig fydd yn ei gwneud hi’n haws i’r heddlu ddal pobol sy’n yfed neu’n cymryd cyffuriau cyn gyrru.

“Mae yfed a gyrru a chymryd cyffuriau a gyrru yn droseddau difrifol ac rydyn ni’n benderfynol o sicrhau fod pobol yn cael eu cosbi,” meddai.

“Mae hi’r un mor berygl gyrru dan ddylanwad cyffuriau ag alcohol ac mae’n bryd i ni anfon neges glir nad yw gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn fwy derbyniol i gymdeithas na gyrru dan ddylanwad y ddiod gadarn.”

Nododd fod nifer y rheini sydd wedi marw o ganlyniad i bobol yn yfed a gyrru wedi disgyn 75% er 1979.

“Mae rhai pobol yn yfed a gyrru yn aml, felly fe fydd gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu dal yn fwy effeithiol na gostwng y terfyn,” meddai.