Jemima, ar y dde gyda'i chwaer (Llun Teulu-PA)
Fe ddaeth yn amlwg bod merch a fu farw’n 13 oed wedi helpu i achub bywyd wyth o bobol trwy roi organau – y nifer uchaf erioed, yn ôl arbenigwyr.

Bu farw Jemima Layzell o Wlad yr Haf ym mis Mawrth 2012 oherwydd problem ag un o wythiennau ei hymennydd.

Yn ôl ystadegau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hi yw’r unig berson sydd wedi cyfrannu organau i wyth unigolyn gwahanol.

O’r wyth person wnaeth dderbyn ei horganau, roedd pump ohonyn nhw yn blant o ardaloedd gwahanol yn y Deyrnas Unedig.

Penderfyniad iawn

“Roedd y penderfyniad i roddi organau Jemima yn un anodd ond roeddwn yn teimlo mae dyna oedd y peth iawn i’w wneud, ac roeddwn yn gwybod ei bod hi o blaid rhoddi ei horganau,” meddai mam y ferch, Sophy Layzell.

“Mae pawb eisiau i’w plentyn i fod yn arbennig ac yn unigryw ac mae hyn, ynghyd â phethau eraill, yn ein gwneud ni’n falch.”