Mae wyth o bobol wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dwy lori a bws mini ar draffordd M1.
Cafodd Heddlu Dyffryn Tafwys eu galw toc cyn 3.15am fore Sadwrn i’r digwyddiad rhwng cyffordd 15 a chyffordd 14, yn ardal Newport Pagnell.
Roedd yr holl gerbydau’n teithio i’r un cyfeiriad, ac mae lle i gredu mai o ardal Nottingham yr oedd y bws mini wedi teithio.
Mae nifer o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac mae dau ddyn wedi’u harestio.
Roedd un plentyn ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu.
Cyhuddiadau
Mae gyrwyr y ddwy lori wedi cael eu harestio.
Mae dyn 31 oed o Swydd Gaerwrangon wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac o yfed a gyrru.
Mae dyn 53 o Stoke wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Mae’r draffordd ynghau am y tro, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.